Caerphilly Interchange

Get project news

Do you want to receive an email when news items are posted?

Latest news

Stay involved in the discussion. Keep up to date with the latest news and share it with your fellow community members.

Arddangosfa Gyhoeddus a Dolen Gwefan Newydd / Public Exhibition and New Website Link

Bydd y cam nesaf o ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer Cyfnewidfa newydd Caerffili yn digwydd yn Llyfrgell Caerffili rhwng 5 a 16 Mehefin lle bydd arddangosfa o'n cynigion dylunio.

Bydd aelodau o dîm y prosiect (sy’n cynnwys Grimshaw Architects, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Trafnidiaeth Cymru) yn bresennol ddydd Mercher 14eg Mehefin ac yn edrych ymlaen at gwrdd â chi i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y dyluniadau. Bydd holiadur byr ar gael yn y llyfrgell i chi ei lenwi.

Bydd cynnwys yr arddangosfa a holiadur hefyd ar gael ar y platfform ar-lein newydd, lle bydd yr holl ymgysylltu a gwybodaeth am y prosiect yn y dyfodol yn seiliedig. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mynediad i'r wefan newydd a chofrestru ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol.

Unwaith eto, diolch i chi am eich cyfranogiad a'ch cyfraniadau at yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn ar Commonplace, sydd bellach wedi dod i ben.

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/cyfnewidfa-caerffili-ymgynghoriad-cyhoeddus-cam-3

The next step of public engagement for the new Caerphilly Interchange will take place at Caerphilly Library from 5th – 16th June where there will be an exhibition of our design proposals.

Members of the project team (that includes Grimshaw Architects, Caerphilly County Borough Council and Transport for Wales) will be present on Wednesday 14th June and look forward to meeting you to answer any questions you may have about the designs. There will be a short questionnaire available at the library for you to fill in.

The exhibition content and questionnaire will also be available at the new online platform, where all future engagement and information about the project will be based. Use the link below to access the new website and sign up for future updates.

Once again, thank you for your participation and contributions to this public engagement on Commonplace, which has now concluded.

https://conversation.caerphilly.gov.uk/caerphilly-interchange-stage-3

Posted on 5th June 2023

by Grimshaw Architects

Diweddariad ar y Prosiect a Gwefan Ymgysylltu Newydd / Project Update and New Engagement Website

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Thrafnidiaeth Cymru yn gwneud gwelliannau i’r cynllun cyn y cam olaf (Cam 3) ein hymgysylltiad â chi, yr ydym yn rhagweld y caiff ei gynnal ym mis Mai.

Bydd hwn yn ddigwyddiad cyhoeddus lle byddwn yn rhannu'r cynlluniau ar gyfer y gyfnewidfa. Bydd y cynnwys rydym yn ei gynhyrchu ar gyfer y digwyddiad hwn hefyd ar gael ar-lein i'r rhai na allant fod yn bresennol.

Mae CBSC bellach wedi penodi partner ymgysylltu newydd i ddwyn ynghyd ymgynghoriad cyhoeddus ar draws holl brosiectau Creu Lleoedd Caerffili 2035, a bydd ein hymgysylltiad yma ar Commonplace yn dod i ben yn fuan.

Byddwn yn cysylltu â chi eto unwaith eto drwy Commonplace i roi gwybod i chi am y trefniadau ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus. Bryd hynny, fe gewch ddolen i’r wefan newydd yn eich gwahodd i gofrestru i barhau i dderbyn gwybodaeth am y cynllun yn y dyfodol.

Unwaith eto, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ymateb i'n harolygon ac wedi darparu sylwadau a mewnwelediad. Edrychwn ymlaen at rannu ein dyluniadau gyda chi yn fuan.

We have been working very closely with Caerphilly County Borough Council and Transport for Wales to make improvements to the scheme in advance of the final step (Step 3) of our engagement with you, which we now anticipate will take place in late May.

This will be a public event where we will share the designs for the interchange. The content we are producing for this event will also be available online to those unable to attend in person. CCBC have now appointed a new engagement partner to bring together public consultation across all Caerphilly 2035 Placemaking projects, and our engagement here on Commonplace will soon be concluded.

We will contact you again one more time via Commonplace to inform you of the arrangements for the public event and provide a link to the new website inviting you to sign up to continue to receive future information on the scheme and to get involved in future consultations.

Once again, we would like to express our thanks to all those who have responded to our surveys and provided your comments and insight, and we look forward to sharing our designs with you soon.

Posted on 19th April 2023

by Grimshaw Architects

Cwblhau Cam 2 Ymgysylltu / Completion of Step 2 Engagement

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i adolygu a rhoi sylwadau ar ein cynigion yng Ngham 2 o'r ymgysylltu cymunedol hwn ar gyfer Cyfnewidfa Caerffili.

Diolch hefyd i’r rhai a fynychodd un o’r sesiynau galw heibio i roi eich barn yn bersonol – cawsom fewnwelediad gwerthfawr o’r cyfnewidiadau hyn.

Mae'r Tîm Dylunio yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Trafnidiaeth Cymru a bydd yn ymgymryd â datblygiad dylunio pellach yn seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu o'ch adborth.

Bydd ein hymgysylltiad cam nesaf â chi yn cynnwys arddangosfa i rannu'r dyluniad diweddaraf ac esbonio sut mae eich adborth wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau.

Disgwyliwn yn awr i hyn ddigwydd ym mis Chwefror 2023 cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y Gwanwyn.

Rydym yn dymuno gwyliau Nadoligaidd hapus iawn i chi i gyd a byddwn mewn cysylltiad eto yn y flwyddyn newydd i rannu ein canfyddiadau allweddol o Gam 2 a mwy o fanylion ar Gam 3.

------------------------------------------------------------------------------------------

We would like to extend our gratitude to all of those who have taken the time to review and comment on our proposals in Step 2 of this community engagement for Caerphilly Interchange.

Thank you also to those who attended one of the drop-in sessions to give your views in person – we gained valuable insight from these exchanges.

The Design Team is continuing to work closely with Caerphilly County Borough Council and Transport for Wales and will undertake further design development based on what we have learnt from your feedback.

Our engagement with you will conclude with an exhibition to share our final design proposals and explain how your feedback has influenced our decision-making.

We now expect this to take place in February 2023 in advance of a planning application being submitted later in the Spring.

We wish you all a very happy festive holiday and will be in touch again in the new year to share our key findings from Step 2 and more details on Step 3.

Posted on 16th December 2022

by Grimshaw Architects

Mae Cam 2 y broses Ymgysylltu bellach yn weithredol! / Step 2 Engagement is now Live!

Diolch i chi unwaith eto am gymryd rhan ac am eich ymatebion i'n map gwres a'n holiadur. Yn dilyn cwblhau Cam 1, hoffem gyhoeddi lansiad y cam nesaf yn ein proses o ymgysylltu â’r gymuned.

Rydym wedi bod yn datblygu ein cynigion yn fanylach ac yn awr yn barod i rannu ein syniadau gyda chi yng Ngham 2.

Mae 8 'Teilsen' newydd i chi eu harchwilio. Gallwch eu gweld drwy sgrolio i lawr y dudalen hafan nes cyrraedd “Cam 2 : Rhannu ein Syniadau". Gallwch hefyd gael mynediad iddynt drwy’r botwm “Dweud eich Dweud” ym mar dewislen y wefan hon.

Mae'r Deilsen gyntaf yn cynnwys diweddariad ar ganlyniadau Cam 1, a chrynodeb o'r hyn roeddem wedi’i ddysgu o'ch ymatebion i'n holiadur. Mae hyn er gwybodaeth yn unig, ac nid oes unrhyw gwestiynau na sylwadau i'w hateb.

Gellir gweld y 7 Teilsen sy'n weddill mewn unrhyw drefn, ond os oes gennych amser, rydym yn argymell eu hadolygu mewn trefn gan y gallai hyn eich helpu i ddeall y cynigion yn gliriach.

Mae pob Teilsen yn cynnwys hyd at 3 tudalen, felly cadwch lygad am y botymau 'Nesaf' ac 'Yn ôl' i bori drwy'r holl gynnwys. Ar dudalen olaf pob un fe welwch holiadur byr i'w ateb ar yr hyn rydym wedi'i rannu, ac edrychwn ymlaen at gael eich adborth parhaus ar ein syniadau a'n cynigion.

Rhai pethau i'w cadw mewn cof…

Cyd-destun y Prosiect

Mae uwchraddio'r gyfnewidfa yn un rhan o Gynllun Creu Lleoedd Caerffili 2035, ac yn allweddol i ddatgloi buddion prosiectau eraill, yn ogystal â gwaith uwchraddio Trafnidiaeth Cymru ar Linellau Craidd y Cymoedd, ac i wireddu'r posibilrwydd o welliannau i'r Castell. I ddysgu mwy ewch i www.caerphillytown2035.co.uk

Cyllid

Mae cais i’r Gronfa Ffyniant Bro (LUF) wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn sicrhau cyllid i gyflawni prosiect y Gyfnewidfa. Mae'r cyllid y gwneir cais amdano yn rhan o ddyraniad sydd ar gael yn benodol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth.

Teithio Llesol

Mae'r strategaeth teithio llesol ar gyfer y dref gyfan yn ffocws i astudiaeth gyfochrog a bydd yn destun proses ymgynghori ar wahân. Rydym wedi ceisio darparu lle ar gyfer cysylltiadau teithio llesol i, a thrwy safle’r gyfnewidfa, mewn ffordd sy’n gallu addasu i ddatblygiadau yn y dyfodol.

Parcio a Theithio

Nid yw’r safle Parcio a Theithio o fewn ffiniau’r gwaith i uwchraddio'r gyfnewidfa. Yn dilyn canlyniadau Cam 1, rydym wedi sicrhau bod y ffordd ddynesu ddwyreiniol o'r maes parcio ac o Barc Busnes Caerffili wedi bod yn ystyriaeth allweddol yn ein cynigion.

------------------------------------------------------------------------------------------

Thank you once again for your participation and responses to our heatmap and questionnaire. Following the completion of Step 1, we would like to announce the launch of the next step in our community engagement.

We have been developing our proposals in more detail and are now ready to share our ideas with you in Step 2.

There are 8 new ‘Tiles’ for you to explore which can be accessed by scrolling down the homepage until you come to “Step 2: Sharing our Ideas." You can also access them from the “Have Your Say” button in the menu bar of this website.

The first Tile contains an update on the Step 1 outcomes, and a summary of what we learnt from your responses to our questionnaire. This is for information only, and there are no questions or comments to answer.

The remaining 7 Tiles can be viewed in any order, but if you have time, we recommend reviewing them in sequence as this may help you understand the proposals more clearly. Each Tile contains up to 3 pages so look out for the ‘Next’ and ‘Back’ buttons to browse all the content.

On the last page of each you will find a short questionnaire to answer on what we have shared, and we look forward to getting your continued feedback on our ideas and proposals.

Some things to bear in mind…

Project Context

The upgrade to the interchange is one part of the Caerphilly 2035 Placemaking Plan, and key to unlocking the benefits of other projects, as well as TfW’s Core Valley Lines transport upgrade works, and to realise the potential of improvements to the Castle. To learn more please visit www.caerphillytown2035.co.uk

Funding

A Levelling Up Fund (LUF) bid has been submitted to UK Government to secure funding to deliver the Interchange project. The funding being applied for is part of an allocation being specifically made available for transport projects.

Active Travel

The town wide active travel strategy is the focus of a parallel study and will be subject to a separate consultation process. We have sought to provide space for active travel links to, and through the interchange site in a way which can adapt to future developments.

Park and Ride

The Park & Ride car park site is not within the scope of the interchange upgrade. Following the outcomes of Step 1, we have ensured that the eastern approach from both the car park and Caerphilly Business Park has been a key consideration in our proposals.

Posted on 28th September 2022

by Grimshaw Architects

Arolwg Cyfnewidfa Caerffili - y diweddaraf / Caerphilly Interchange Survey Update

Mae arolwg cymunedol Cyfnewidfa Caerffili wedi bod ar waith ers 3 wythnos bellach. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac am rannu gyda ni y ffordd rydych chin defnyddior orsaf. Diolch hefyd am eich synaidau ach awgrymiadau ar sut y gallwn ni wella pethau.

Maen galonogol bod cymaint ohonoch wedi cymryd rhan yn y cam hwn or arolwg - diolch o galon i chi am eich holl sylwadau.

Hoffem hefyd rannu ychydig o ystadegau rydyn ni wediu casglu. Rydyn ni wedi llwyddo i wneud hyn gydach help chi:

  • Y rheswm pennaf mae pobl yn defnyddior orsaf yw ar gyfer Siopa neu Hamddena (35%) ar ail reswm yw er mwyn cymudo yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd (26%).
  • Y pedwar dull mwyaf poblogaidd a ddefnyddir i gyrraedd ac i adael gorsaf Caerffili yw mewn car (30%), cymorth troed/symudedd (25%), bws (20%) a thrn (15%)
  • Mae 10% or ymatebwyr yn defnyddior orsaf bob dydd, 30% 2-4 gwaith yr wythnos a 35% ychydig o weithiaur mis.
  • Ein Rhaglen Ymgysylltu

    Oherwydd nifer yr ymatebion a ddaeth i law, hoffem dreulio mwy o amser yn pwyso a mesur yr holl sylwadau ar adborth a gawsom ynghylch ein cynigion dylunio. Felly, byddwn yn ymestyn Cam 1 on hymgysylltiad chi, a bydd y map ar holiadur yn parhau i fod ar gael tan ddiwedd mis Gorffennaf.

    Y bwriad nawr yw dechrau ar Gam 2 ganol mis Awst ac yna Cham 3 ym mis Medi, arl gwyliaur haf. Fel hyn, gallwn roi cymaint o gyfle phosibl i bobl ymweld harddangosfa.

    Rhowch y gair ar led a rhannwch y ddolen gydach ffrindiau ach teulu.

    ------------------------------------------------------------------------------------------

    The Caerphilly Interchange community survey has been active now for 3 weeks, and we'd like to thank everyone for their participation and insight into how you experience the station and your ideas and suggestions for how it can be improved.

    We have been encouraged by the participation in this part of our engagement, and are grateful for all your comments.

    We'd also like to share some quick data points which you have helped us generate:

  • The most popular use of the station among respondents to our survey is for Shopping or Leisure (35%) with commuting to/from Cardiff in second place (26%).
  • The four most popular means of travelling to and from Caerphilly station is by car (30%), on foot/mobility aid (25%), bus (20%) and train (15%)
  • 10% of respondents use the station every day, 30% 2-4 times per week, and 35% a few times per month
  • Our Engagement Programme

    Due to the number of responses we have received, we would like to take more time to consider all the comments and feedback in our design proposals. We will therefore be extending Step 1 of our engagement with you, and the map and questionnaire will continue to be available until the end of July.

    We will now aim to begin Step 2 in mid-August and Step 3 in September, after the summer holiday period to enable as many people are able to attend our exhibition as possible.

    Please spread the word and share the link with your friends and family.

    Posted on 21st July 2022

    by Grimshaw Architects